Friday, April 14, 2006


Croeso i fy mlog newydd sbon!

Dyma lle mi fyddai'n postio pethau diddorol, doniol, dadleuol a phopeth arall sy'n dechrau gyda'r llythyren 'd'! Yn wir, dyma cychwyn ymdrech Plaid ym Maldwyn i ennill y sedd yma yn yr etholiad Cynulliad 3ydd o Fai 2007.

Mae'n fraint a phleser i mi fod yn ymgeisydd dros y Blaid ym Maldwyn ac mi rydw i'n dibynnu'n fawr ar eich help a chymorth. Os allwch chi fy nghynorthwyo mewn unrhyw fordd, cysylltwch gyda fi cyn gynted ag y fedrwch. Yn arbennig, rydw i'n chwilio am unrhyw fath o gyfle llun!

Yn anffodus, gan nad wyf yn rugl yn y Gymraeg, bydd rhai tudalennu yn Saesneg yn unig, ond rwy'n eich croesawi chi i ddefnyddio y ddwy iaith wrth cysylltu รข mi.

Diolch yn fawr, ac edrychaf ymlaen at eich cyfraniad i'r blog.



Welcome to my brand new blog!

This is where you will find information about Plaid's campaign to win the Montgomeryshire seat in the National Assembly for Wales election on 3rd of May 2007.

It's a privilege and a pleasure to be Plaid's candidate in Montgomeryshire and I will be depending very much on your help and support. If you can assist me in any way please contact me as soon as possible. I particularly need a photo opportunity soon!


Thank you very much, and I look forward to your contribution to this blog.

1 comment:

Rhys Wynne said...

S'mai,

Newydd ddod ar draws eich blog. Hen bryd i Blaid Cymru ddechrau defnyddio blogio i ledaenu'r neges. Mae'n braf gweld gwleidydd sy'n barod i ddangos ei farn ar bynciau - dyna mae etholwyr eisiau a phob lwc i chi yn yr etholiad.

Sylwaf eich bod wedi bod yn blogio ers Ebrill, ond dwi ddod ar eich traws nes gweld dolen o flog 'Gog with a Blog'. Er mwyn i bobl ddarllen eich blog rhiad i chi ei hyrwyddo, y ffordd gorau yw gadael sylwadau ar flogiau tebyg ac efallai ar flogiau ymgeiswyr y pleidiau eraill (os ydych eisiau dadl).

Hefyd, beth am geisio postio ychydig o byst (posts) yn Gymraeg nawr ac yn y man.