Monday, May 01, 2006

YDY’R GWASANAETH IECHYD YM MALDWYN YN IACH?

Ydy’r Gwasanaeth Iechyd ym Maldwyn yn iach? Dyna’r cwestiwn a ofynnwyd gan Gomisiwn Daioni (Iechyd a Gofal Cymdeithasol) Plaid Cymru wrth iddo dderbyn tystiolaeth gan aelodau’r cyhoedd mewn cyfarfod arbennig yng ngwesty’r Royal Oak, Y Trallwng, yn ddiweddar a hynny yn yr un wythnos y cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru ei bod “bron” wedi cyrraedd y targedau a osododd iddi ei hun ar gyfer amseroedd aros ysbytai ond bod bron i 69,000 mwy o bobl ar restri aros ysbytai nag yr oedd pan gymrodd y Llywodraeth y cyfrifoldeb am Iechyd drosodd yn 1999.

O dan gadeiryddiaeth Helen Mary Jones, Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, clywodd y Comisiwn fod Meddygon Teulu, ysbytai lleol a’r ysbytai cyffredinol yn Amwythig a Gobowen yn cydweithio’n dda ar y cyfan, ar lawr gwlad. Fodd bynnag, holwyd pam fod rhaid i gleifion deithio allan o Bowys i dderbyn triniaeth y gellid, ac y dylid, ei rhoi mewn ysbytai lleol a Chanolfannau Iechyd. Roedd llawer o arian ac arbenigedd yn mynd allan o Bowys ac mewn gwirionedd, roedd yn rhoi cymhorthdal i’r Gwasanaeth iechyd yn Lloegr, a oedd eisoes yn derbyn mwy o arian.

Clywodd y cyfarfod gan Rhianwen Emberton o Aberriw, hefyd, a oedd wedi wynebu anawsterau wrth geisio cael y cyffur Copaxone er bod hwnnw ar gael yn Lloegr, yn gyffredinol, i’r rhai oedd yn dioddef o MS.


27 EBRILL 06

No comments: