Thursday, April 19, 2007

Gall eich pleidlais chi yn yr etholiad ar Fai’r 3ydd wneud gwahaniaeth.

Mae’n ymddangos y bydd Llafur yn colli’i gafael gadarn ar wleidyddiaeth Cymru am y tro cyntaf ers cenedlaethau. Dim ond Plaid Cymru fydd yn ddigon cryf i ffurfio llywodraeth yn lle Llafur neu i arwain clymblaid i wrthwynebu Llafur.

Byddai clymblaid ‘Lib-Lab’ yn cael ei ddominyddu gan Lafur ac yn ddim gwell na be’ sydd gyno’ ni’n barod. Does na neb yn barod i ymuno â chlymblaid yn cael ei harwain gan y Torïaid.

Mae’n argyfwng ym Maldwyn – mae incwm ffermydd yn cwympo, mae gwaith cynhyrchu nwyddau yn cael ei golli ar raddfa chwithig ac rydem ni’n gorfod ymladd dim ond i gadw gwasanaethau cyhoeddus sylfaenol fel ysgolion, llyfrgelloedd, ysbytai, swyddfeydd post, a hyd yn oed toiledau yn ein pentrefi a’n trefi.

Pwy ‘dech chi’n meddwl all amddiffyn buddiannau pobl Maldwyn orau? Y Librals, sy’ ‘di trio a methu am wyth mlynedd, neu’r Torïaid, all byth bythoedd ennill mwyafrif dros Lafur yng Nghymru hyd nes y bydd y lleuad yn gaws Stilton!

Neu Plaid Cymru – eich plaid yn lleol? Gallwn ni ddewis y polisïau sydd orau i ni yma ym Maldwyn ac yma yng Nghymru. Does na’m rhaid i ni holi efo’n cap yn ein llaw i’n meistri yn Llundain gynta’ – achos does geno’ ni ddim! Bydd pleidlais i unrhyw blaid arall yn rhoi rhwydd hynt i Lafur neu glymblaid yn cael ei harwain gan Lafur, i redeg Cymru eto.

Fydd yr awyr ddim yn cwympo ar ein pennau os na fotiwn ni i’r Librals neu’r Torïaid ym Maldwyn. Pleidlais ddirgel ydi hi – fydd ‘na neb yn gw’bod os ‘dech chi wedi torri habit oes a phleidleisio Plaid Cymru! Dwi’n addo y bydd buddiannau Maldwyn yn saff yn fy nwylo. ‘De ni ‘di cael Llywodraeth Lafur a hefyd Llywodraeth ‘Lib-Lab’ yng Nghymru a ‘den ni ddim gwell ‘ffwrdd efo ‘run ohonyn nhw .

Mae’n bryd cael newid. Mae’n bryd gwneud gwahaniaeth. Gwnewch i’ch pleidlais gyfri tro yma.

Ar Fai’r 3ydd fotiwch Plaid – ddwywaith. Unwaith i Faldwyn ac unwaith i Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

No comments: